エピソード

  • Pennod Bonws: Diolch o Galon o Ymchwil Ar Y Gweill
    2026/06/30

    Diolch yn fawr iawn, pawb am eich holl gymorth dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma neges i roi gwybod y bydd Ymchwil Ar Y Gweill yn cymryd amser bant dros yr haf er mwyn recordio ar gyfer cyfres 2!


    Bydd Cyfres 2 hefyd yn ehangu’r ystod o leisiau ar y podlediad, gan gynnwys ymchwilwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd academaidd, ynghyd â mwy o benodau drwy gydol y gyfres.


    Cyn hynny, mae croeso i chi fynd yn ôl at benodau Cyfres 1 ac ail-ddarganfod yr ymchwil ffantastig sydd eisoes wedi’i rhannu.


    Diolch o galon eto am wrando a dw i'n edrych ymlaen at eich croesawu chi nôl ym mis Medi!


    Jon



    続きを読む 一部表示
    2 分
  • Pennod 12: Cyllid a Datganoli gyda Guto Rhys Hughes
    2026/06/29

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Guto Rhys-Hughes, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n ymchwilio i ddatganoli cyllidol, bondiau sofran, a’r modd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio dulliau benthyca newydd i ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn y dyfodol. Mae’r sgwrs yn cyflwyno cysyniadau economaidd cymhleth mewn ffordd glir ac yn archwilio sut mae ymchwil academaidd yn gallu llywio trafodaethau polisi cyhoeddus.


    Yn ystod y bennod, mae Guto yn esbonio beth yw bondiau sofran, sut maent yn gweithio, a pham eu bod yn offeryn ariannol pwysig i lywodraethau ledled y byd. Mae’n trafod y pwerau benthyca a gafodd Llywodraeth Cymru yn 2015, sut mae’r Alban yn paratoi i gyhoeddi ei bond cyntaf, a beth all Cymru ei ddysgu o’r profiadau hynny. Mae hefyd yn egluro’r cysyniad o ddatganoli cyllidol a’r berthynas bosibl rhwng rhoi mwy o bwerau ariannol i lywodraethau lleol a thwf economaidd.


    Mae’r bennod hefyd yn cynnig cipolwg ar realiti ymchwil PhD ym maes economeg. Mae Guto yn trafod yr heriau o gasglu a chysoni data o wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, defnyddio cronfeydd data fel Bloomberg Terminal, a datblygu modelau ystadegol i ddadansoddi’r berthynas rhwng datganoli cyllidol a pherfformiad economaidd. Wrth gloi, mae’n rhannu cyngor i ymchwilwyr eraill ar bwysigrwydd cymryd seibiannau, siarad â chydweithwyr, a chadw cydbwysedd yn ystod taith y PhD.


    Mae prosiect Jonathan a phrosiect Guto yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


    続きを読む 一部表示
    42 分
  • Pennod 11: Diddordebau'r Dysgwyr yn y Dosbarth Ieithoedd gyda Laura Jenkins
    2026/05/14

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Laura Jenkins, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, sy’n ymchwilio i rôl personoli mewn gwersi dysgu ieithoedd a sut y gall cynnwys sy’n berthnasol i fywydau dysgwyr gynyddu eu hymgysylltiad â’r iaith.


    Yn ystod y sgwrs, mae Laura yn trafod ei gwaith ar greu gwersi sydd wedi’u teilwra at ddiddordebau personol dysgwyr—o gerddoriaeth a bwyd i ffilmiau, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys digidol fel Instagram, YouTube a Pinterest. Mae hi’n esbonio sut y gall defnyddio cynnwys sy’n berthnasol i fywyd pob dydd helpu dysgwyr i deimlo mwy o gysylltiad â’r iaith ac annog mwy o gyfranogiad yn y dosbarth.


    Mae’r bennod hefyd yn archwilio rhai o’r syniadau damcaniaethol sydd wrth wraidd ei hymchwil, gan gynnwys “context personalization”, “grain size, depth and ownership”, a’r cysyniad o “catch and hold” mewn addysg ieithoedd. Mae Laura yn trafod sut mae’r syniadau hyn yn helpu ymchwilwyr a thiwtoriaid i feddwl yn fwy realistig am sut i bersonoli gwersi mewn dosbarthiadau gyda dysgwyr o gefndiroedd a diddordebau gwahanol.

    続きを読む 一部表示
    48 分
  • Pennod 10: Y Gymraeg ac Iechyd gyda Maisie Edwards
    2026/04/15

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Maisie Edwards, ymchwilydd PhD sy’n archwilio rôl y Gymraeg mewn cyd-destunau Iechyd yng Nghymru.


    Yn ystod y sgwrs, trafodir pwysigrwydd iaith wrth ddarparu gofal sy’n wirioneddol ganolbwyntio ar yr unigolyn, yn enwedig mewn cyd-destunau diwedd oes. Mae Maisie yn amlinellu sut y gall y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg effeithio ar gysur, ymddiriedaeth ac ymgysylltiad cleifion, gan bwysleisio bod iaith yn fwy na dull o drosglwyddo gwybodaeth—mae’n ganolog i les emosiynol ac urddas.


    Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil, sy’n cynnwys arolwg o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru ynghyd â chyfweliadau manwl. Trwy’r dulliau hyn, mae hi’n archwilio profiadau ac agweddau tuag at ddefnydd iaith mewn lleoliadau gofal lliniarol, yn ogystal â’r heriau sy’n codi, megis diffyg staff Cymraeg eu hiaith a’r angen am gefnogaeth sefydliadol gryfach i hwyluso darpariaeth ddwyieithog.


    Er nad yw’r dadansoddiad wedi’i gwblhau eto, mae canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod dewis iaith yn chwarae rôl hanfodol mewn ansawdd y gofal a ddarperir. Mae Maisie yn trafod sut y gall ei hymchwil gyfrannu at lenwi bylchau yn y dystiolaeth bresennol, gan lywio polisi ac arfer yn y dyfodol, a thynnu sylw at bwysigrwydd darparu gofal sy’n briodol yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol—yng Nghymru ac mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol eraill.


    Mae PhD Jonathan a phrosiect Maisie yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    続きを読む 一部表示
    55 分
  • Pennod 9: Dulliau Dysgu Cymraeg gyda Emma Grigorian
    2026/03/25

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd, sy’n archwilio dysgu Cymraeg ar lein ac yn wyneb i wyneb.


    Yn ystod y sgwrs, trafodir rhyngweithiadau dysgu iaith, gan ganolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb a chyfathrebu'n rhithiol. Mae Emma yn esbonio sut mae ffactorau megis oedi mewn galwadau fideo, diffyg ciwiau gweledol fel meicrofynegiadau, a newidiadau mewn deinameg cymryd-tro yn dylanwadu ar brofiad dysgwyr — yn enwedig o ran hyder, cymhelliant a llwyddiant cyfathrebol canfyddedig.


    Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil amlfoddol, sy’n cyfuno technegau megis olrhain syllu, dadansoddi emosiynau, ac astudiaeth fanwl o batrymau sgwrsio. Trwy gyfres o arbrofion a holiaduron, mae hi’n archwilio sut mae dysgwyr yn prosesu iaith mewn amodau gwahanol, gan gynnwys effaith ansawdd fideo ac oedi ar gywirdeb metawybyddol, yn ogystal â sut mae unigolion yn barnu llwyddiant mewn sgwrs.


    Mae PhD Jonathan a phrosiect Emma yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    続きを読む 一部表示
    49 分
  • Pennod 8: Gweithio gyda Goruchwylwyr gyda Dr Jonathan Morris
    2026/02/20

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda'i oruchwyliwr, Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, am un o’r penderfyniadau pwysicaf ar ddechrau taith academaidd: dewis a gweithio gyda goruchwylwyr doethurol.


    Yn ystod y sgwrs, trafodir sut i fynd ati i ddod o hyd i’r goruchwyliwr cywir, sut i wneud y cyswllt cyntaf heb deimlo fel eich bod chi’n anfon neges i’r gwagle, a beth sy’n gwneud perthynas oruchwylio yn un iach a chynhyrchiol.

    続きを読む 一部表示
    35 分
  • Pennod 7: Deallusrwydd Artiffisial gyda Beca Wyn Owen
    2026/02/04

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beca Wyn Owen, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n archwilio rôl deallusrwydd artiffisial mewn addysg o fewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol, gyda ffocws penodol ar y Gymraeg.


    Yn ystod y sgwrs, trafodir sut mae technolegau AI yn cael eu datblygu a’u defnyddio, a’r hyn mae hynny’n ei olygu i fywiogrwydd ieithyddol yn yr oes ddigidol. Mae Beca yn esbonio sut gall anghydbwysedd data, dylanwadau masnachol, a phenderfyniadau polisi arwain at anghydraddoldebau digidol rhwng ieithoedd — ac yn holi beth yw goblygiadau hyn i addysg Gymraeg mewn ysgolion a phrifysgolion.


    Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil, sy’n canolbwyntio ar brofiadau athrawon, myfyrwyr, darlithwyr a llunwyr polisi, ac yn codi cwestiynau pwysig am gyfrifoldeb, cyfleoedd, a dyfodol y Gymraeg mewn byd lle mae AI yn chwarae rhan gynyddol ganolog.


    Mae PhD Jonathan a phrosiect Beca yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    続きを読む 一部表示
    51 分
  • Pennod 6: Dyfodol Ffermydd yng Nghymru gyda Gwenllian Jenkins
    2025/12/10

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gwenllian Jenkins, ymchwilydd PhD sy’n archwilio sut mae ffermydd Cymru’n addasu ac yn goroesi yn oes o newid economaidd, gwleidyddol ac hinsoddol.

    Mae’r drafodaeth yn mynd â ni i galon amaethyddiaeth Cymru: y fferm deuluol. Wrth i ni ymuno â hi,cawn glywed sut mae newid hinsawdd, ansicrwydd polisi, a’r angen am incwm ychwanegol yn gwthio ffermwyr i ail-ddychmygu eu rôl — o gynhyrchwyr bwyd traddodiadol i ddarparwyr gwasanaethau ecosystem ac arloeswyr busnes gwledig.

    Mae’r sgwrs hefyd yn tynnu sylw at y newid demograffig sy’n wynebu’r diwydiant: gweithlu sy’n heneiddio, prinder ffermwyr ifanc yn ymuno â’r maes, ac y cwestiwn mawr — sut olwg sydd ar ddyfodol amaeth yn Nghymru?

    Dilynwch Gwen are LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/gwenllian-jenkins-7510b7205/

    Mae fy mhrosiect PhD a phrosiect Gwenllian yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    続きを読む 一部表示
    50 分