Pennod 5: Dosbarth Cymdeithasol a'r Gymraeg gyda Heledd Williams
カートのアイテムが多すぎます
カートに追加できませんでした。
ウィッシュリストに追加できませんでした。
ほしい物リストの削除に失敗しました。
ポッドキャストのフォローに失敗しました
ポッドキャストのフォロー解除に失敗しました
-
ナレーター:
-
著者:
このコンテンツについて
Yn y bennod hon, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda’r ymchwilydd Heledd am ei phrosiect PhD hynod ddiddorol, “Y Gwerin Goll? Dosbarth Cymdeithasol a’r Iaith Gymraeg.”
Mae Heledd yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng dosbarth cymdeithasol, iaith ac hunaniaeth yng Nghymru heddiw. Yn ystod y sgwrs, cawn drafod sut mae dosbarth yn siapio pwy sy’n cael llais wrth ddiffinio Cymreictod, a pha rôl mae’r iaith Gymraeg ffurfiol yn ei chwarae wrth greu (neu rwystro) teimlad o berthyn.
Gan dynnu ar feddylwyr megis Raymond Williams a Bourdieu, mae Heledd yn herio’r ddelwedd gonfensiynol o’r “siaradwr Cymraeg nodweddiadol”, gan roi llwyfan i leisiau’r werin Gymreig a phrofiadau dosbarth gweithiol yng Nghymru gyfoes.
Sgwrs ysgogol sy’n uno iaith, diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol – gan ofyn, beth mae’n wirioneddol ei olygu i berthyn yng Nghymru heddiw?
LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/heledd-williams-139a298b/
Mae fy mhrosiect i a phrosiect Heledd yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dilynwch Ymchwil ar y Gweill ar ei hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gyrmu.