Pennod 1: Dysgu Ynganu gyda Marian Brosschot
カートのアイテムが多すぎます
カートに追加できませんでした。
ウィッシュリストに追加できませんでした。
ほしい物リストの削除に失敗しました。
ポッドキャストのフォローに失敗しました
ポッドキャストのフォロー解除に失敗しました
-
ナレーター:
-
著者:
このコンテンツについて
Yn yr bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, dyn ni'n siarad â Marian Brosschot, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, am ei phrosiect “Hyder wrth (A)ddysgu Ynganu: Datblygu Hyfforddiant Ynganu ym maes Cymraeg i Oedolion”.
Mae ynganu yn un o’r heriau mwyaf i’w feistroli wrth ddysgu iaith newydd – i’r dysgwyr eu hunain ac i’r tiwtoriaid sy’n eu haddysgu. Mae’r ymchwil hon yn archwilio sut y gellir cefnogi tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion i ddysgu ynganu gyda mwy o hyder, a sut y gellir rhoi’r offer i ddysgwyr wella eu Cymraeg llafar. Bydd y prosiect hefyd yn ystyried sut mae cefndir ieithyddol y dysgwyr, boed eu hiaith gyntaf neu dafodiaith, yn effeithio ar eu gallu i feistroli seiniau’r Gymraeg.
Gyda chefndir dysgu yng Nghymru, Sbaen ac Ariannin, ac fel crëwr y sianel YouTube Galés con Marian, mae Marian yn dod â phrofiad rhyngwladol a brwdfrydedd dros ddysgu ieithoedd i’w gwaith.
Youtube: https://www.youtube.com/@galesconmarian
Instagram: https://www.instagram.com/galesconmarian?utm_source=ig_web_button_share_sheet&igsh=ZDNlZDc0MzIxNw==
TikTok: https://www.tiktok.com/@gales_con_marian?is_from_webapp=1&sender_device=pc
Mae fy mhrosiect a phrosiect Marian yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dilynnwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru.