Pennod 3: Y Lysosom gyda Gwenno Rowlands
カートのアイテムが多すぎます
カートに追加できませんでした。
ウィッシュリストに追加できませんでした。
ほしい物リストの削除に失敗しました。
ポッドキャストのフォローに失敗しました
ポッドキャストのフォロー解除に失敗しました
-
ナレーター:
-
著者:
このコンテンツについて
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gwenno Rowlands, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, am ei gwaith ar y lysosom – y “ganolfan ailgylchu” fach sydd o fewn pob cell o’n cyrff.
Mae’r sgwrs yn mynd â ni ar daith drwy fyd bach y gell, gan egluro sut mae camweithrediad mewn ensym penodol, asid seramidas, yn gallu arwain at glefydau prin difrifol fel clefyd Farber – ond hefyd yn cynnig cliwiau newydd am gyflwrau cyffredin fel canser ac Alzheimer.
Mae’r bennod hefyd yn trafod profiad gwneud ymchwil wyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg – y manteision, yr heriau, a’r pwysigrwydd o sicrhau lle i’r Gymraeg yn y byd academaidd a gwyddonol.
Linked in: https://www.linkedin.com/in/gwennorowlands/?originalSubdomain=uk
Mae fy mhrosiect a phrosiect Gwenno yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dilynwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru!