Pennod 2: Hanes Pel-Droed Cymru gyda Beth Jones
カートのアイテムが多すぎます
カートに追加できませんでした。
ウィッシュリストに追加できませんでした。
ほしい物リストの削除に失敗しました。
ポッドキャストのフォローに失敗しました
ポッドキャストのフォロー解除に失敗しました
-
ナレーター:
-
著者:
このコンテンツについて
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beth Angharad Jones, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymchwilio i hanes pêl-droed yng Ngogledd Cymru. Mae Beth yn archwilio sut mae pêl-droed yn siapio hunaniaeth Gymreig, rhywedd a chymuned — o glybiau lleol i dimau cenedlaethol, ac o’r cof bob dydd i’r archif.
Drwy hanes llafar, diwylliant materol ac ymchwil archifol, mae ei gwaith yn taflu goleuni ar straeon sydd wedi’u hanwybyddu’n aml; yn enwedig lleisiau merched a phobl anneuaidd yn y gamp. Mae’r sgwrs yn ystyried beth mae pêl-droed yn ei olygu i Gymru, sut mae’n atgyfodi atgofion ac emosiynau, a pham mae’r gêm yn dal mor ganolog i’n hunaniaeth genedlaethol.
Instagram: https://www.instagram.com/beth.jones.hanes?utm_source=ig_web_button_share_sheet&igsh=ZDNlZDc0MzIxNw==
Mae fy mhrosiect i a phrosiect Beth yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dilynwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru.