エピソード

  • Sgribls Pennod 14: Simon Chandler
    2024/11/07

    Mae Marged yn sgwrsio gyda'r awdur Simon Chandler am ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ei siwrne'n dysgu'r Gymraeg a heriau ysgrifennu nofel, ei angerdd a'i waith er mwyn diwylliant Cymru, a'r pethau sy'n ei ysbrydoli.

    続きを読む 一部表示
    59 分
  • Sgribls Pennod 13: Meinir Pierce Jones
    2024/10/04

    Gwestai'r bennod hon yw Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 efo'i nofel hanesyddol, Capten, a golygydd yng Ngwasg y Bwthyn. Ceir trafodaeth am ddyletswydd awdur tra'n ysgrifennu am gymeriadau hanesyddol, pwysigrwydd dyfalbarhau, a beth sy'n gwneud stori arbennig o safbwynt golygydd.

    続きを読む 一部表示
    32 分
  • Sgribls Pennod 12: Sioned Erin Hughes
    2024/09/09

    Gwestai pennod cynta'r ail gyfres o Sgribls yw Sioned Erin Hughes, enillydd y Fedal Ryddiaith 2022 gyda'i chyfrol Rhyngom. Mae Erin eisioes wedi cyhoeddi O'r Rhuddin, casgliad o gerddi a myfyrdodau, a wedi curadu a golygu Iaith Heb Ffiniau, cyfrol am fagu'r Gymraeg dramor.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 7 分
  • Sgribls Pennod Bonws: Mari George
    2024/08/08

    Mae Marged yn holi Mari George, awdur Sut i Ddofi Corryn ac enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 am ei llwyddiant, ei siwrne i gyhoeddi, a'i phroses ysgrifennu.

    続きを読む 一部表示
    27 分
  • Sgribls Pennod 10: Bethan Gwanas
    2024/06/13
    Mae Marged yn sgwrsio gyda Bethan Gwanas am ei nofel diweddaraf, y pethau sy’n ei hysbrydoli, sut mae’n ymdopi efo cyfnodau pan nad yw’r geiriau’n llifo, a’i chyngor gwerthfawr i awduron newydd.
    続きを読む 一部表示
    51 分
  • Sgribls Pennod 9: Rebecca Thomas
    2024/05/10

    Mae Marged yn sgwrsio gyda'r awdur Rebecca Thomas am ei llyfrau, ei chyfnod fel awdur preswyl Parc Genedlaethol Bannau Brycheiniog, ymchwilio hanes cyfoethog Cymru, a heriau penodol ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc.

    続きを読む 一部表示
    34 分
  • Sgribls Pennod 8: Llyfrau Melin Bapur
    2024/04/15
    Mae Marged yn sgwrsio gyda Adam Pearce am ei gwmni cyhoeddi, Llyfrau Melin Bapur. Ceir trafodaeth am gyhoeddi'n annibynnol, heriau sefydlu busnes newydd, a ymroddiad y cwmni i gyhoeddi llenyddiaeth Cymraeg o'r 19eg ganrif, a fyddai fel arall ar goll.
    続きを読む 一部表示
    46 分
  • Sgribls Pennod 7: Joanna Davies
    2024/03/15

    Mae Marged yn sgwrsio gyda Joanna Davies, awdur y gyfres Bwci-Bo, am ei gyrfa, y broses o ysgrifennu llyfrau stori a llun, y profiad golygyddol, a'r her o farchnata a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

    続きを読む 一部表示
    38 分