『Ymchwil Ar Y Gweill』のカバーアート

Ymchwil Ar Y Gweill

Ymchwil Ar Y Gweill

著者: Jonathan Davies
無料で聴く

Ymchwil ar y Gweill yw’r podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. Boed chi’n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.Jonathan Davies
エピソード
  • Pennod Bonws: Diolch o Galon o Ymchwil Ar Y Gweill
    2026/06/30

    Diolch yn fawr iawn, pawb am eich holl gymorth dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma neges i roi gwybod y bydd Ymchwil Ar Y Gweill yn cymryd amser bant dros yr haf er mwyn recordio ar gyfer cyfres 2!


    Bydd Cyfres 2 hefyd yn ehangu’r ystod o leisiau ar y podlediad, gan gynnwys ymchwilwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd academaidd, ynghyd â mwy o benodau drwy gydol y gyfres.


    Cyn hynny, mae croeso i chi fynd yn ôl at benodau Cyfres 1 ac ail-ddarganfod yr ymchwil ffantastig sydd eisoes wedi’i rhannu.


    Diolch o galon eto am wrando a dw i'n edrych ymlaen at eich croesawu chi nôl ym mis Medi!


    Jon



    続きを読む 一部表示
    2 分
  • Pennod 12: Cyllid a Datganoli gyda Guto Rhys Hughes
    2026/06/29

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Guto Rhys-Hughes, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n ymchwilio i ddatganoli cyllidol, bondiau sofran, a’r modd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio dulliau benthyca newydd i ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn y dyfodol. Mae’r sgwrs yn cyflwyno cysyniadau economaidd cymhleth mewn ffordd glir ac yn archwilio sut mae ymchwil academaidd yn gallu llywio trafodaethau polisi cyhoeddus.


    Yn ystod y bennod, mae Guto yn esbonio beth yw bondiau sofran, sut maent yn gweithio, a pham eu bod yn offeryn ariannol pwysig i lywodraethau ledled y byd. Mae’n trafod y pwerau benthyca a gafodd Llywodraeth Cymru yn 2015, sut mae’r Alban yn paratoi i gyhoeddi ei bond cyntaf, a beth all Cymru ei ddysgu o’r profiadau hynny. Mae hefyd yn egluro’r cysyniad o ddatganoli cyllidol a’r berthynas bosibl rhwng rhoi mwy o bwerau ariannol i lywodraethau lleol a thwf economaidd.


    Mae’r bennod hefyd yn cynnig cipolwg ar realiti ymchwil PhD ym maes economeg. Mae Guto yn trafod yr heriau o gasglu a chysoni data o wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, defnyddio cronfeydd data fel Bloomberg Terminal, a datblygu modelau ystadegol i ddadansoddi’r berthynas rhwng datganoli cyllidol a pherfformiad economaidd. Wrth gloi, mae’n rhannu cyngor i ymchwilwyr eraill ar bwysigrwydd cymryd seibiannau, siarad â chydweithwyr, a chadw cydbwysedd yn ystod taith y PhD.


    Mae prosiect Jonathan a phrosiect Guto yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


    続きを読む 一部表示
    42 分
  • Pennod 11: Diddordebau'r Dysgwyr yn y Dosbarth Ieithoedd gyda Laura Jenkins
    2026/05/14

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Laura Jenkins, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, sy’n ymchwilio i rôl personoli mewn gwersi dysgu ieithoedd a sut y gall cynnwys sy’n berthnasol i fywydau dysgwyr gynyddu eu hymgysylltiad â’r iaith.


    Yn ystod y sgwrs, mae Laura yn trafod ei gwaith ar greu gwersi sydd wedi’u teilwra at ddiddordebau personol dysgwyr—o gerddoriaeth a bwyd i ffilmiau, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys digidol fel Instagram, YouTube a Pinterest. Mae hi’n esbonio sut y gall defnyddio cynnwys sy’n berthnasol i fywyd pob dydd helpu dysgwyr i deimlo mwy o gysylltiad â’r iaith ac annog mwy o gyfranogiad yn y dosbarth.


    Mae’r bennod hefyd yn archwilio rhai o’r syniadau damcaniaethol sydd wrth wraidd ei hymchwil, gan gynnwys “context personalization”, “grain size, depth and ownership”, a’r cysyniad o “catch and hold” mewn addysg ieithoedd. Mae Laura yn trafod sut mae’r syniadau hyn yn helpu ymchwilwyr a thiwtoriaid i feddwl yn fwy realistig am sut i bersonoli gwersi mewn dosbarthiadau gyda dysgwyr o gefndiroedd a diddordebau gwahanol.

    続きを読む 一部表示
    48 分
adbl_web_anon_alc_button_suppression_t1
まだレビューはありません