エピソード

  • Rhys a Connor Davis - brodyr sy'n dysgu Cymraeg yn America, diolch i Mamgu! | Pennod 35
    2026/08/12

    Ein gwesteion y tro yma ydy Rhys a Connor Davis - dau frawd anhygoel o Ohio yn yr Unol Daleithiau.

    Maen nhw wedi dysgu Cymraeg er mwyn siarad gyda’u Mam-gu, sy’n dod o Gymru!

    Cyfrif Tiktok Rhys

    Cyfrif Instagram Rhys

    Recordiwyd ein sgwrs yn Ebrill 2026.

    ***

    Cyflwynydd: Richard Nosworthy

    Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad... > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

    Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.

    ***

    Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol.

    続きを読む 一部表示
    39 分
  • Andy Bell - Llais (Cymraeg) Awstralia | Pennod 34
    2026/07/01

    G'day...a chroeso i gyfres newydd o'r pod!

    Y gwestai cyntaf yn y gyfres ydy Andy Bell, adnabyddus fel 'llais Awstralia' ar BBC Cymru a chyflwynydd podlediad 'Rhaglen Cymru.

    Yn ein sgwrs, mae Andy yn esbonio sut wnaeth rhaglenni teledu a radio ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg fel bachgen yn Lloegr.

    Mae e'n rhannu ei brofiadau fel dysgwr ym Mhrifysgol Abertawe a defnyddio'r Gymraeg yn Canberra, a beth sydd wedi ei helpu i ddod yn rhugl.

    ***

    Cyflwynydd: Richard Nosworthy

    Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad... > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

    Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.

    ***

    Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol.

    続きを読む 一部表示
    43 分
  • Geordan Burress - Ohio, Cymru a Super Furry Animals (o'r archif) | Pennod 33
    2026/04/28

    Cyfle arall i glywed sgwrs gyda Geordan Burress, o Ohio yn yr Unol Daleithiau.

    Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod yr iaith trwy gerddoriaeth Gruff Rhys.

    Yn y sgwrs mae Geordan yn esbonio sut mae hi wedi dysgu Cymraeg ar lein, a rhannu ei phrofiadau ar daith i Gymru.

    Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn 2021.

    ***

    Cyflwynydd: Richard Nosworthy

    Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

    Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.

    ***

    Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol.

    続きを読む 一部表示
    23 分
  • Sut ddysgodd y Doctor Cymraeg yr iaith ei hun! (O'r archif) | Pennod 32
    2026/03/26

    Cyfle arall i glywed fy sgwrs gyda'r 'Doctor Cymraeg' - Stephen Rule.

    Athro Cymraeg ydy Stephen, mae e’n dod o ardal Wrecsam, ac erbyn hyn, mae dros cant mil o ddilynwyr gyda fe ar y cyfryngau cymdeithasol!

    Ond sut wnaeth y Doctor Cymraeg ei hun ddysgu'r iaith?

    Ar un adeg, doedd e ddim yn ddigon hyderus i siarad Cymraeg tu fas i’r ysgol. Felly dyma'r stori am sut wnaeth e fagu cymaint o hyder...

    Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn 2021.

    ***

    Cyflwynydd: Richard Nosworthy

    Hysbyseb: Darganfyddwch y cymorth cyfathrebu dwi'n ei gynnig i elusennau a'r sector cyhoeddus.

    Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

    Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.

    続きを読む 一部表示
    33 分
  • Angharad Jones: Athrawes o'r Cymoedd sydd wedi dysgu Cymraeg (o'r archif) | Pennod 31
    2026/02/23

    Cyfle arall i glywed sgwrs gydag Angharad Jones, athrawes mewn ysgol Saesneg o Fedwas, Caerffili.

    Mae hi'n trafod tyfu lan heb wersi Cymraeg yn yr ysgol, dysgu'r iaith trwy'r cynllun 'Cymraeg Mewn Blwyddyn' a defnyddio'r iaith wrth rhedeg.

    Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol ym mis Mai 2021.

    ***

    Cyflwynydd: Richard Nosworthy

    Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

    Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.

    続きを読む 一部表示
    19 分
  • Rhiannon Oliver: Yr actores Doctors a Torchwood o Benarth (o'r archif) | Pennod 30
    2026/01/21

    Cyfle arall i glywed sgwrs gyda Rhiannon Oliver, actores o Benarth sy wedi gweithio yn y theatr a theledu ers mwy nac 17 mlynedd.

    Mae ei gwaith hi wedi cynnwys perfformio gyda National Theatre Wales, teithio o gwmpas Prydain ac America, ac ymddangos ar Doctors a Torchwood. Roedd Rhiannon yn bartner siarad i fi yn y Cynllun Siarad hefyd.

    Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn Ebrill 2021.

    ***

    Cyflwynydd: Richard Nosworthy

    Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

    Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.

    続きを読む 一部表示
    24 分
  • Barbara a Bernard: Traddodiad Nadolig a byw ar y ffin (o'r archif) | Pennod 29
    2025/12/22

    Dyma stori Nadoligaidd am gwpl a symudodd o Loegr i ardal o Gymru sy'n dafliad carreg o'r ffin.

    Mae Barbara a Bernard Gillespie, o Wolverhampton yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg ac wedi'i defnyddio llawer yn eu cymuned nhw.

    Yn y sgwrs, 'dyn ni'n siarad hefyd am traddodiad creddorol y Plygain yn ystod cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

    Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn Rhagfyr 2022.

    ***

    Cyflwynydd: Richard Nosworthy

    Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

    Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.

    続きを読む 一部表示
    36 分
  • Walter Brooks: O Batagonia i Gymru (o'r archif) | Pennod 28
    2025/11/25

    Stori anhygoel Walter Brooks o Batagonia.

    Ar ôl clywed straeon am ei nain, oedd yn siarad Cymraeg yn yr Ariannin, dysgodd Walter yr iaith ei hun. Aeth ei gariad at y Gymraeg â fe i Gymru, ble mae e'n byw o hyd.

    Dyma ail gyfle i fwynhau stori Walter - tra fy mod i'n recordio penodau newydd, rwy'n ail-rannu sgyrsiau o'r archif. Cyhoeddwyd y sgwrs wreiddiol yn Chwefror 2021.

    ***

    Cyflwynydd: Richard Nosworthy

    Hoffech chi fod yn y gyfres nesaf? Dyma'r manylion i gyd (dyddiad cau 5/12/2025).

    Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

    続きを読む 一部表示
    1 時間 4 分