エピソード

  • Pennod 6 - A Oes Heddwch?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda’r Athro Howard Williams, arbenigwr ar athroniaeth gwleidyddol ac awdur cyfrol sydd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o heddwch tragwyddol. Yn y sgwrs hon, mae Howard a Huw yn trafod y gwahanol safbwyntiau sydd wedi ymddangos yn y traddodiad gorllewinol mewn perthynas â’r thema o heddwch, gan bwyso a mesur sut y gwnaeth gwahanol feddylwyr ddehongli’r cwestiwn. Tra bo rhai yn gweld gwrthdaro a rhyfel yn rhan annatod o’r drefn ryngwladol, mae eraill yn ystyried bod ffurf ar h[SJ1] eddwch yn bosib dros y tymor hir. [SJ1]iawn




    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    59 分
  • Pennod 5 - Pam fod hiliaeth yn bodoli?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gydag Emily Pemberton, arbenigwr ym maes cydraddoldebau, ac yn bennaf ym maes gwrth-hiliaeth. Mae Emily yn galw ar ei gwaith fel ymarferydd a hefyd ei hymchwil academaidd i ateb rhai o’r cwestiynau sylfaenol ynghylch tarddiad hiliaeth, ei datblygiad, a’i heffeithiau ar y gymdeithas ddynol yn hanesyddol, ac yn y dydd sydd ohoni. Trafodir y berthynas anorfod rhwng hiliaeth a datblygiad y system gyfalafol, yn ogystal â rhoi sylw i ambell feddyliwr o bwys, megis Frantz Fanon. Rhydd sylw hefyd i’r thema yng nghyd-destun polisïau gwrth-hiliaeth yng Nghymru.

    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    1 時間 8 分
  • Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Huw Rees, ei gyd-weithiwr yn gyd-ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Huw (Rees!) yn arbenigwr mewn Athroniaeth Wleidyddol ac yn y bennod hon mae’n trafod y gwahanol safbwyntiau a dadleuon a geir mewn perthynas â’r wladwriaeth. Cychwynnir gyda’r cwestiwn sylfaenol ynghylch yr angen am wladwriaeth, gyda Huw yn esbonio sut y mae gwahanol athronwyr dros amser wedi ceisio cyfiawnhau ei bodolaeth ar wahanol seiliau, ond bod rhai, yr anarchwyr yn bennaf, yn cwestiynu gwerth a chyfraniad y wladwriaeth. Dyma drafodaeth felly sydd yn cymell y gwrandäwr i gwestiynu ac ailystyried gwerth a phwrpas sefydliad yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol fel rhan o’r gymdeithas fodern, ond sydd mewn gwirionedd yn endid diweddar iawn yn hanes y ddynoliaeth.

    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    1 時間 5 分
  • Pennod 3 - Pam fod tlodi’n bodoli?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Sam Parry, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn ddarlithydd mewn Busnes ac yn arbenigwr ar ddatblygiad economaidd – yn enwedig o’r safbwynt hanesyddol. Mae Sam yn helpu esbonio’r ffactorau sy’n gyfrifol am hirhoedledd tlodi , a chan edrych ar y cwestiwn o safbwynt lleol a byd-eang. Trafodir sut y mae deall a diffinio tlodi, a pham a sut y mae tlodi yn effeithio ar wahanol rannau o’r byd, gan gynnwys Cymru.

    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    1 時間 11 分
  • Pennod 2 - Pam crefydd?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor, sydd yn ddarlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd (ymysg pethau eraill!). Cyfyd sawl thema a safbwynt ar y cwestiwn, gan drafod tarddiad crefydd, ei ‘phwrpas’, a phaham y bu’n rhan mor greiddiol o fywyd y ddynoliaeth. Mae’r ddau hefyd yn myfyrio ar oblygiadau’r ffaith nad yw crefydd mor ganolog ag y bu yn y gymdeithas orllewinol a beth yw pendraw y seciwlareiddio cynyddol hwn.

    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    1 時間 11 分
  • Pennod 1 - Beth yw ystyr bywyd?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Mirain Rhys, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg a hefyd yn gwnselydd. Mae ei harbenigedd academaidd a’i phrofiad ymarferol yn cynnig safbwynt unigryw ar y cwestiwn dan sylw, ac yn sail i ddehongliadau difyr a chraff ynghylch pwysigrwydd ceisio ateb y pos tragwyddol hwn. Nid yw’r bennod agoriadol hon heb ambell i dro trwstan ... !

    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    1 時間 10 分