『Beth yw ystyr bywyd?』のカバーアート

Beth yw ystyr bywyd?

Beth yw ystyr bywyd?

著者: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
無料で聴く

このコンテンツについて

Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill

Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd - fel mae’r teitl yn ei awgrymu - yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg.

Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw. Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell ... )!

Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.Coleg Cymraeg Cenedlaethol
エピソード
  • Pennod 6 - A Oes Heddwch?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda’r Athro Howard Williams, arbenigwr ar athroniaeth gwleidyddol ac awdur cyfrol sydd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o heddwch tragwyddol. Yn y sgwrs hon, mae Howard a Huw yn trafod y gwahanol safbwyntiau sydd wedi ymddangos yn y traddodiad gorllewinol mewn perthynas â’r thema o heddwch, gan bwyso a mesur sut y gwnaeth gwahanol feddylwyr ddehongli’r cwestiwn. Tra bo rhai yn gweld gwrthdaro a rhyfel yn rhan annatod o’r drefn ryngwladol, mae eraill yn ystyried bod ffurf ar h[SJ1] eddwch yn bosib dros y tymor hir. [SJ1]iawn




    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    59 分
  • Pennod 5 - Pam fod hiliaeth yn bodoli?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gydag Emily Pemberton, arbenigwr ym maes cydraddoldebau, ac yn bennaf ym maes gwrth-hiliaeth. Mae Emily yn galw ar ei gwaith fel ymarferydd a hefyd ei hymchwil academaidd i ateb rhai o’r cwestiynau sylfaenol ynghylch tarddiad hiliaeth, ei datblygiad, a’i heffeithiau ar y gymdeithas ddynol yn hanesyddol, ac yn y dydd sydd ohoni. Trafodir y berthynas anorfod rhwng hiliaeth a datblygiad y system gyfalafol, yn ogystal â rhoi sylw i ambell feddyliwr o bwys, megis Frantz Fanon. Rhydd sylw hefyd i’r thema yng nghyd-destun polisïau gwrth-hiliaeth yng Nghymru.

    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    1 時間 8 分
  • Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth?
    2025/12/04
    Yn y bennod hon mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Huw Rees, ei gyd-weithiwr yn gyd-ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Huw (Rees!) yn arbenigwr mewn Athroniaeth Wleidyddol ac yn y bennod hon mae’n trafod y gwahanol safbwyntiau a dadleuon a geir mewn perthynas â’r wladwriaeth. Cychwynnir gyda’r cwestiwn sylfaenol ynghylch yr angen am wladwriaeth, gyda Huw yn esbonio sut y mae gwahanol athronwyr dros amser wedi ceisio cyfiawnhau ei bodolaeth ar wahanol seiliau, ond bod rhai, yr anarchwyr yn bennaf, yn cwestiynu gwerth a chyfraniad y wladwriaeth. Dyma drafodaeth felly sydd yn cymell y gwrandäwr i gwestiynu ac ailystyried gwerth a phwrpas sefydliad yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol fel rhan o’r gymdeithas fodern, ond sydd mewn gwirionedd yn endid diweddar iawn yn hanes y ddynoliaeth.

    Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    続きを読む 一部表示
    1 時間 5 分
まだレビューはありません