エピソード

  • Sgwrs gyda Tom Owen a Lisa Taylor
    2025/04/01

    Yn y bennod yma, rydyn ni’n siarad gyda Lisa Taylor, artist talentog sy’n cael ei hysbrydoli gan dirweddau Cymru a’r elfennau naturiol o’n cwmpas, a Tom Owen, sylfaenydd y cwmni poblogaidd iawn Swig Smwddis. A mi fyddan nhw’n rhannu eu profiadau o weithio a datblygu gyrfa yma yn ARFOR.

    続きを読む 一部表示
    28 分
  • Sgwrs gyda'r asiantaeth greadigol ddigidol Libera
    2025/03/25

    Yn y bennod yma mae Ffion yn cael sgwrs gydag Alun a Megan o Libera, sef asiantaeth greadigol ddigidol wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin.

    Yn ogystal â dysgu mwy am y cwmni a'u gwaith, cawn glywed sut mae cefnogaeth Elfen Yrfaol Llwyddo'n Lleol wedi eu helpu i ehangu'r tîm!

    続きを読む 一部表示
    24 分
  • Sgwrs gyda Helen a Tara o Prosiect Gwyddoniaeth Mawr
    2025/03/18

    Yn y bennod yma rydym yn cael sgwrs gyda Helen a Tara o Prosiect Gwyddoniaeth Mawr. Mae'r cwmni wedi derbyn cefnogaeth gan Llwyddo'n Lleol drwy'r Elfen Gyrfaol i gyflogi Tara. Gwrandewch ar y sgwrs i gael clywed sut mae gefnogaeth yma wedi bod o fudd i Tara a Helen!

    続きを読む 一部表示
    22 分
  • Sgwrs gyda Morlais - Trafod yr Elfen Gyrfaol, Ynni Llanw a mwy!
    2025/03/11

    Yn y bennod yma, rydyn ni’n siarad gyda Hannah a Caryl o Morlais, sef prosiect ynni llif llanw gan Menter Môn.

    Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut mae Elfen Gyrfaol Llwyddo'n Lleol wedi caniatau i Caryl weithio gyda Morlais, tra hefyd yn astudio yn y brifysgol. Byddwn hefyd yn dysgu ychydig mwy am waith y prosiect a darganfod yr holl gyfleoedd sydd yn dod ohonno.

    続きを読む 一部表示
    16 分
  • Ydi Dychwelyd yn Fethiant?
    2025/02/25

    Yn y bennod hwn, rydyn ni’n mynd i drafod un o’r syniadau mwyaf dadleuol sy’n wynebu llawer o bobl sy’n gadael eu cymunedau lleol – y gred fod ‘dychwelyd adref’ yn rhyw fath o fethiant.

    Rydyn ni’n croesawu dau westai arbennig sydd â phrofiadau uniongyrchol o’r daith hon – Huw Rees a Daniel Thomas. Mae’r ddau yn wreiddiol o ardal ARFOR ond wedi symud i ffwrdd i Gaerdydd a Llundain, cyn dychwelyd adref. Byddan nhw’n rhannu eu straeon, yn archwilio’r rhesymau pam wnaethon nhw benderfynu dychwelyd, ac yn trafod pam nad yw dychwelyd adref o anghenraid yn golygu cymryd cam yn ôl.

    続きを読む 一部表示
    14 分
  • Magu Teulu yn ARFOR
    2025/02/18

    Yn y bennod yma rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio ar faes sy’n agos at galon llawer ohonon ni – magu teulu yng Ngorllewin Cymru.

    Rydyn ni’n sgwrsio â dwy westai arbennig – Hannah Hughes a Ffion Medi Rees. Mae’r ddwy yn rhannu eu profiadau o fagu plant yn yr ardal, y manteision unigryw sydd gan fywyd yma i’w gynnig, yn ogystal â’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu.

    続きを読む 一部表示
    19 分
  • Does Dim Byd I'w Wneud Yma!
    2025/02/11

    Yn y bennod yma rydyn ni’n mynd i herio’r gred gyffredin bod ‘dim byd i'w wneud’ yn ardal ARFOR.

    Rydyn ni’n cael cwmni dau westai arbennig sy’n profi’r gwrthwyneb: Gwen Owen, sy’n rhedeg Môn Girls Run, ac Steff Rees, sy’n trefnu llu o ddigwyddiadau cyffrous yn ardal Ceredigion. Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, byddwn yn clywed sut mae’r ddau ohonyn nhw’n helpu i greu cyfleoedd, cysylltu pobl ifanc â’u cymunedau, a dangos bod y gorllewin yn llawn egni a bywyd i’r genhedlaeth nesaf.

    続きを読む 一部表示
    16 分
  • Rhedeg Busnes yn ARFOR
    2025/01/24

    Yn y bennod yma, rydyn ni’n edrych ar sut beth yw rhedeg busnes yn ardal ARFOR a’r gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid lleol.

    Yn ymuno gyda ni mae dau westai ysbrydoledig: Daniel Grant, sylfaenydd Pen Wiwar, brand dillad cynaliadwy sy’n dathlu harddwch Cymru, a Tomos Owen, cyd-sylfaenydd Pelly, platfform pwerus sy’n galluogi clybiau pêl-droed i wneud penderfyniadau doethach a chyflymach. Mae’r ddau wedi elwa o gefnogaeth Llwyddo’n Lleol i ddatblygu eu syniadau ac adeiladu busnesau llwyddiannus yn ein hardal wledig.

    Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut y dechreuodd eu taith, y ffordd maen nhw’n defnyddio eu busnesau i gysylltu â’u cymunedau, a’r rôl y mae Llwyddo’n Lleol wedi’i chwarae yn eu llwyddiant. Byddwn hefyd yn ystyried eu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol a’r hyn sy’n gwneud ARFOR yn lle arbennig i lansio a thyfu busnes.

    Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth neu eisiau gwybod mwy am botensial ein hardaloedd gwledig, rydych chi yn y lle iawn.

    続きを読む 一部表示
    19 分