『Datgloi: Straeon COVID o Gymru』のカバーアート

Datgloi: Straeon COVID o Gymru

Datgloi: Straeon COVID o Gymru

著者: Diogelu Cymru
無料で聴く

概要

Y cyflwynydd Dot Davies sy’n cynnal cyfres o bodlediadau yn sgwrsio gydag ystod o bobl nodedig ledled Cymru am eu profiadau yn ystod y pandemig.

O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol i’r Prif Weinidog ei
hunan, mae pob pennod yn rhoi golwg y tu ôl i’r llen i wrandawyr o sut mae COVID-19
wedi effeithio ar bobl o bob cefndir ar draws y wlad.

Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…Copyright Bengo Media
心理学 心理学・心の健康 社会科学 衛生・健康的な生活
エピソード
  • Gwersi bywyd yn sgil COVID: chwalu rhwystrau a chreu ysbytai maes, gyda Dr Meinir Jones a Dr Liza Thomas-Emrus
    2022/04/21
    Mae Meinir Jones, Meddyg Teulu ac Arweinydd Gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Liza Thomas-Emrus, Meddyg Teulu ac Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Gwella Llesiant Bwrdd Iechyd Cwm Taf, yn ddwy gydweithwraig a chwaraeodd ran hollbwysig yn y gwaith o greu ysbytai maes yn ystod y pandemig – wrth iddyn nhw helpu i ddarparu gofal hanfodol i’r rhai mewn angen a thorri rhwystrau traddodiadol byrddau iechyd mewn cyfnod digynsail.

    Yn y bennod yma, bu Dot yn siarad gyda nhw am yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau ar y rheng flaen yn ystod y cyfnod yma, a’r holl wersi gallwn ni i gyd eu dysgu o’r ddwy flynedd ddiwethaf.

    Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
    続きを読む 一部表示
    36 分
  • Wrth galon ymateb COVID Cymru: uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei rôl allweddol, gyda Dr Eleri Davies MBE
    2022/04/18
    Mae gwestai heddiw yn un y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â hi. I lawer ohonon ni, Dr Eleri Davies MBE oedd y brif ffynhonnell ar gyfer diweddariadau COVID Llywodraeth Cymru yn ystod llawer o’r pandemig.

    Yn y bennod yma, cafodd Dot sgwrs ddwys gyda Dr Eleri am ei siwrne i’r byd meddygaeth, ei rolau amrywiol a oedd yn ganolog i ymateb COVID Cymru, a sut roedd yn teimlo pan gafodd ei chydnabod gydag MBE am ei gwaith yn ystod y pandemig.

    Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
    続きを読む 一部表示
    36 分
  • Llunio gyrfa annisgwyl yn 19 oed yn y cyfryngau, a hyn oll yng nghanol pandemig, gyda Mirain Iwerydd
    2022/04/13
    Mae Mirain Iwerydd yn seren newydd yng Nghymru. Yn 19 oed, hi yw cyflwynydd rhaglen y Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2 ochr yn ochr â gwneud ei gradd prifysgol.

    Yn y bennod yma, bu Dot yn sgwrsio gyda Mirain i ddysgu beth yw ei phrofiad hi fel person ifanc yn byd mewn pandemig byd-eang, ac i glywed sut arweiniodd ei phrosiect personol unigryw yn ystod y cyfnod clo at ei gyrfa newydd yn y cyfryngau.

    Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
    続きを読む 一部表示
    31 分
まだレビューはありません