エピソード

  • 91 - BAFTA Cymru, Jonathan Bailey a 'manspreadio'
    2026/10/08

    Mae hi'n wythnos y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth ac mae'r siop yn llawn bwrlwm yr wythnos hon wrth i Mari a Meilir baratoi ar gyfer y penwythnos. Ond hefyd rhaid trafod gwobrau'r BAFTAs Cymru, recordiad Dracula newydd Jonathan Bailey a chreision blâs cyw iâr...! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 26 分
  • 90 - Traitors, VMAs a'r Cornell 7
    2026/10/01

    Gofynnwch a chwi a gewch - ma hi'n bennod swmpus arall yr wythnos hon wrth i ni drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos, gan gynnwys gwobrau'r VMAs, cerddoriaeth newydd Taylor Swift ac achos y Cornell 7. Dewch i mewn i'r siop am sgwrs!

    Rhybudd Cynnwys: Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 47 分
  • 89 - Channing Tatum, Ms Rachel a Misteeq
    2026/09/24

    Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl - ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. O burner account honedig Channing Tatum, canslo taith Misteeq i gynhyrchiad newydd yr RSC o As You Like It. Gwnewch baned a swatiwch, mae'r Siop ar agor!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 45 分
  • 88 - Matthew Rhys, Ed Sheeran a Gwagle
    2026/09/17

    Rhag-rybudd: roedd Mari a Meilir yn teimlo'n siaradus IAWN yr wythnos hon felly mae hon yn bennod hirach fyth na'r arfer. Ond yr ôll ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf, gallwch chi ddeall pam. O daith ddadleuol Ed Sheeran, drama ym mhlaid R€form Cymru i lwyddiant hanesyddol Matthew Rhys yn ngwobrau yr Emmy's - mae yna gymaint i'w drafod. Felly strap in, folks - dewch i mewn i'r siop!

    続きを読む 一部表示
    2 時間 6 分
  • 87 - Tom Jones, P!nk a ghostio
    2026/09/10

    Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. O ymddiswyddiad Tom Jones o The Voice, P!nk yn beirniadu Macklemore a thrafferthion sioe gerdd Burlesque - mae'r silffoedd yn llawn! Felly dewch i mewn i'r siop i wrando ar y clebran. Mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 40 分
  • 86 - Dolly, Gwyl Llan a BAFTA Cymru
    2026/09/03

    Wedi'r holl newyddion trist am golli arwyr yr wythnos yma, mae Mari a Meilir yn falch o ddod nol i'r siop i gael het atgofion am Dolly Parton, Tim Curry ac i glywed am holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 26 分
  • 85 - Calon, Waitress a Calendar Girls
    2026/08/26

    Mae'r siop yr wythnos hon yn fyw o westy yng Nghaerdydd ac mae Mari a Meilir yn cael y cyfle i hel clecs wyneb yn wyneb am change! Mae yna ambell i drip theatr wedi bod gan gynnwys ymweliad ag ymarferion sioe newydd sbon Cwmni Theatr yr Urdd sef 'Calon'. Dewch i mewn i glywed ymateb Meilir i'r sioe a llawer mwy...

    続きを読む 一部表示
    1 時間 25 分
  • 84 - Dic coll, Mariah Poppins a'r eclipse
    2026/08/20

    Mae Mari a Meilir wedi bod ar eu travels ac mae nhw'n falch iawn i fod nol yn y siop i ddadbacio'r holl glecs ma nhw di'w casglu dros yr wythnos. O Mariah Poppins, i The Odyssey i'r Dic coll i albwm newydd Aleighcia Scott. Felly dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 14 分