エピソード

  • Asesu Anghenion Llythrennedd Uwchradd trwy’r Gymraeg
    2025/09/25
    Rhiannon Packer a Marjorie Thomas o Brifysgol Met Caerdydd sy’n sgwrsio gyda Trystan yn y rhifyn hon yn trafod y gwaith o gynhyrchu’r asesiad llythrennedd safonedig holistaidd cyntaf yng Nghymru. Fe fyddwn yn trafod asesu anghenion llythrennedd disgyblion uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
    続きを読む 一部表示
    29 分
  • Mudiad Meithrin
    2025/09/25
    Menna Machreth sy’n ymuno â Trystan i drafod sut mae Mudiad Meithrin wedi ac yn ymateb i anghenion plant yn y blynyddoedd cynnar yn sgil y ddeddf ADY. Mudiad sy'n arbenigo ym maes y blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin
    続きを読む 一部表示
    25 分
  • Siwrne Siarad
    2025/09/25
    Emma Griffiths, athrawes arbenigol Iaith a Lleferydd o Sir Gaerfyrddin sy’n trafod y cynllun Siwrne Siarad, cynllun dwyieithog sydd ar gael i ysgolion ar draws y wlad i’w ddefnyddio i gefnogi datblygiad iaith plant a phobl ifanc.
    続きを読む 一部表示
    21 分
  • Seicoleg Addysg
    2025/09/25
    Yn y rhifyn hwn, Lynwen (Caerfyrddin) a Helen (Castell Nedd Port Talbot) sy’n trafod eu gwaith fel Seicolegwyr Addysg.
    続きを読む 一部表示
    37 分
  • Athrawon Arbenigol Nam Golwg
    2025/09/25
    Owain (Cyngor Caerdydd) a Mair (Sir Benfro), dau o athrawon arbenigol Nam Golwg Cymru sy’n ymuno yn y rhifyn hwn. Ceir trafodaeth ar waith athrawon Nam Golwg Cymru gan gynnwys yr heriau a’r dechnoleg sydd ar gael i gefnogi dysgwyr a chanddynt nam ar eu golwg
    続きを読む 一部表示
    35 分
  • Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor
    2025/02/27
    Yn cadw cwmni i Trystan yn y rhifyn hon yw Ruth Elliott sy’n gweithio yng Nghanolfan Dyslecsia Miles ym Mhrifysgol Bangor.

    cdm-dyslecsia@bangor.ac.uk https://www.dyslexia.bangor.ac.uk/index.php.cy
    続きを読む 一部表示
    30 分
  • Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor
    2025/02/27
    Yn y rhifyn hwn fe fyddwch yn clywed gan Gruff Prys yng Nghanolfan Bedwyr yn trafod datblygiadau yn y maes technoleg cyfrwng Cymraeg a sut gall y dechnoleg cefnogi dysgwyr a chanddynt ADY.tts.techiaith.cymru Trawsgrifiwr (Welsh Transcriber) |
    続きを読む 一部表示
    36 分
  • Niwrowahaniaeth Cymru
    2025/02/25
    Sioned Thomas o Niwrowahaniaeth Cymru sy’n cadw cwmni yn y rhifyn hwn yn trafod eu gwaith ar draws Cymru. Hafan - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team
    続きを読む 一部表示
    28 分